5 Eithr pob gwraig yn gweddïo neu yn proffwydo, yn bennoeth, sydd yn cywilyddio ei phen: canys yr un yw â phe byddai wedi ei heillio.
6 Canys os y wraig ni wisg am ei phen, cneifier hi hefyd: eithr os brwnt i wraig ei chneifio, neu ei heillio, gwisged.
7 Canys gŵr yn wir ni ddylai wisgo am ei ben, am ei fod yn ddelw a gogoniant Duw: a'r wraig yw gogoniant y gŵr.
8 Canys nid yw'r gŵr o'r wraig, ond y wraig o'r gŵr.
9 Ac ni chrewyd y gŵr er mwyn y wraig; eithr y wraig er mwyn y gŵr.
10 Am hynny y dylai'r wraig fod ganddi awdurdod ar ei phen, oherwydd yr angylion.
11 Er hynny nid yw na'r gŵr heb y wraig, na'r wraig heb y gŵr, yn yr Arglwydd.