13 Oherwydd trwy un Ysbryd y bedyddiwyd ni oll yn un corff, pa un bynnag ai Iddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion; ac ni a ddiodwyd oll i un Ysbryd.
14 Canys y corff nid yw un aelod, eithr llawer.
15 Os dywed y troed, Am nad wyf law, nid wyf o'r corff; ai am hynny nid yw efe o'r corff?
16 Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o'r corff; ai am hynny nid yw hi o'r corff?
17 Pe yr holl gorff fyddai lygad, pa le y byddai'r clywed? pe'r cwbl fyddai glywed, pa le y byddai'r arogliad?
18 Eithr yr awr hon Duw a osododd yr aelodau, bob un ohonynt yn y corff, fel yr ewyllysiodd efe.
19 Canys pe baent oll un aelod, pa le y byddai'r corff?