22 Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o'r corff y rhai a dybir eu bod yn wannaf, ydynt angenrheidiol:
23 A'r rhai a dybiwn ni eu bod yn amharchedicaf o'r corff, ynghylch y rhai hynny y gosodwn ychwaneg o barch; ac y mae ein haelodau anhardd yn cael ychwaneg o harddwch.
24 Oblegid ein haelodau hardd ni nid rhaid iddynt wrtho: eithr Duw a gyd-dymherodd y corff, gan roddi parch ychwaneg i'r hyn oedd ddiffygiol:
25 Fel na byddai anghydfod yn y corff; eithr bod i'r aelodau ofalu'r un peth dros ei gilydd.
26 A pha un bynnag ai dioddef a wna un aelod, y mae'r holl aelodau yn cyd‐ddioddef; ai anrhydeddu a wneir un aelod, y mae'r holl aelodau yn cydlawenhau.
27 Eithr chwychwi ydych gorff Crist, ac aelodau o ran.
28 A rhai yn wir a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf apostolion, yn ail proffwydi, yn drydydd athrawon, yna gwyrthiau, wedi hynny doniau i iacháu, cynorthwyau, llywodraethau, rhywogaethau tafodau.