19 Ond yn yr eglwys gwell gennyf lefaru pum gair trwy fy neall, fel y dysgwyf eraill hefyd, na myrddiwn o eiriau mewn tafod dieithr.
20 O frodyr, na fyddwch fechgyn mewn deall; eithr mewn drygioni byddwch blant; ond mewn deall byddwch berffaith.
21 Yn y ddeddf y mae yn ysgrifenedig, Trwy rai estronieithus, a thrwy wefusau estronol, y llefaraf wrth y bobl hyn; ac ni'm gwrandawant felly, medd yr Arglwydd.
22 Am hynny tafodau ydynt arwydd, nid i'r rhai sydd yn credu, ond i'r rhai di‐gred: eithr proffwydoliaeth, nid i'r rhai di‐gred, ond i'r rhai sydd yn credu.
23 Gan hynny os daw'r eglwys oll ynghyd i'r un lle, a llefaru o bawb â thafodau dieithr, a dyfod o rai annysgedig neu ddi‐gred i mewn; oni ddywedant eich bod yn ynfydu?
24 Eithr os proffwyda pawb, a dyfod o un di‐gred neu annysgedig i mewn, efe a argyhoeddir gan bawb, a fernir gan bawb:
25 Ac felly y gwneir dirgelion ei galon ef yn amlwg; ac felly gan syrthio ar ei wyneb, efe a addola Dduw, gan ddywedyd fod Duw yn wir ynoch.