29 A llefared y proffwydi ddau neu dri, a barned y lleill.
30 Ac os datguddir dim i un arall a fo yn eistedd yno, tawed y cyntaf.
31 Canys chwi a ellwch oll broffwydo bob yn un, fel y dysgo pawb, ac y cysurer pawb.
32 Ac y mae ysbrydoedd y proffwydi yn ddarostyngedig i'r proffwydi.
33 Canys nid yw Duw awdur anghydfod, ond tangnefedd, fel yn holl eglwysi'r saint.
34 Tawed eich gwragedd yn yr eglwysi: canys ni chaniatawyd iddynt lefaru; ond bod yn ddarostyngedig, megis ag y mae'r gyfraith yn dywedyd.
35 Ac os mynnant ddysgu dim, ymofynnant â'u gwŷr gartref: oblegid anweddaidd yw i wragedd lefaru yn yr eglwys.