13 Eithr onid oes atgyfodiad y meirw, ni chyfodwyd Crist chwaith:
14 Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yn wir yw ein pregeth ni, ac ofer hefyd yw eich ffydd chwithau.
15 Fe a'n ceir hefyd yn gau dystion i Dduw; canys ni a dystiasom am Dduw, ddarfod iddo gyfodi Crist: yr hwn nis cyfododd efe, os y meirw ni chyfodir.
16 Canys os y meirw ni chyfodir, ni chyfodwyd Crist chwaith.
17 Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yw eich ffydd chwi; yr ydych eto yn eich pechodau.
18 Yna hefyd y cyfrgollwyd y rhai a hunasant yng Nghrist.
19 Os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn yng Nghrist, truanaf o'r holl ddynion ydym ni.