2 Trwy yr hon y'ch cedwir hefyd, os ydych yn dal yn eich cof â pha ymadrodd yr efengylais i chwi, oddieithr darfod i chwi gredu yn ofer.
3 Canys mi a draddodais i chwi ar y cyntaf yr hyn hefyd a dderbyniais, farw o Grist dros ein pechodau ni, yn ôl yr ysgrythurau;
4 A'i gladdu, a'i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr ysgrythurau;
5 A'i weled ef gan Ceffas, yna gan y deuddeg.
6 Wedi hynny y gwelwyd ef gan fwy na phum cant brodyr ar unwaith: o'r rhai y mae'r rhan fwyaf yn aros hyd yr awron; eithr rhai a hunasant.
7 Wedi hynny y gwelwyd ef gan Iago; yna gan yr holl apostolion.
8 Ac yn ddiwethaf oll y gwelwyd ef gennyf finnau hefyd, megis gan un annhymig.