21 Canys gan fod marwolaeth trwy ddyn, trwy ddyn hefyd y mae atgyfodiad y meirw.
22 Oblegid megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yng Nghrist y bywheir pawb.
23 Eithr pob un yn ei drefn ei hun: y blaenffrwyth yw Crist; wedi hynny y rhai ydynt eiddo Crist yn ei ddyfodiad ef.
24 Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a'r Tad: wedi iddo ddileu pob pendefigaeth, a phob awdurdod a nerth.
25 Canys rhaid iddo deyrnasu, hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed.
26 Y gelyn diwethaf a ddinistrir yw yr angau.
27 Canys efe a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef. Eithr pan yw yn dywedyd fod pob peth wedi eu darostwng, amlwg yw mai oddieithr yr hwn a ddarostyngodd bob peth iddo.