35 Eithr fe a ddywed rhyw un, Pa fodd y cyfodir y meirw? ac â pha ryw gorff y deuant?
36 O ynfyd, y peth yr wyt ti yn ei hau, ni fywheir oni bydd efe marw.
37 A'r peth yr wyt yn ei hau, nid y corff a fydd yr ydwyt yn ei hau, ond gronyn noeth, ysgatfydd o wenith, neu o ryw rawn arall.
38 Eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorff fel y mynnodd efe, ac i bob hedyn ei gorff ei hun.
39 Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd: eithr arall yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd anifeiliaid, a chnawd arall sydd i bysgod, ac arall i adar.
40 Y mae hefyd gyrff nefol, a chyrff daearol: ond arall yw gogoniant y rhai nefol, ac arall y rhai daearol.
41 Arall yw gogoniant yr haul, ac arall yw gogoniant y lloer, ac arall yw gogoniant y sêr: canys y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant.