44 Y mae corff anianol, ac y mae corff ysbrydol.
45 Felly hefyd y mae yn ysgrifenedig, Y dyn cyntaf Adda a wnaed yn enaid byw, a'r Adda diwethaf yn ysbryd yn bywhau.
46 Eithr nid cyntaf yr ysbrydol, ond yr anianol; ac wedi hynny yr ysbrydol.
47 Y dyn cyntaf o'r ddaear, yn daearol; yr ail dyn, yr Arglwydd o'r nef.
48 Fel y mae y daearol, felly y mae y rhai daearol hefyd; ac fel y mae y nefol, felly y mae y rhai nefol hefyd.
49 Ac megis y dygasom ddelw y daearol, ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol.
50 Eithr hyn meddaf, O frodyr, na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw; ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth.