46 Eithr nid cyntaf yr ysbrydol, ond yr anianol; ac wedi hynny yr ysbrydol.
47 Y dyn cyntaf o'r ddaear, yn daearol; yr ail dyn, yr Arglwydd o'r nef.
48 Fel y mae y daearol, felly y mae y rhai daearol hefyd; ac fel y mae y nefol, felly y mae y rhai nefol hefyd.
49 Ac megis y dygasom ddelw y daearol, ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol.
50 Eithr hyn meddaf, O frodyr, na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw; ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth.
51 Wele, yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch: Ni hunwn ni oll, eithr ni a newidir oll mewn moment, ar drawiad llygad, wrth yr utgorn diwethaf:
52 Canys yr utgorn a gân, a'r meirw a gyfodir yn anllygredig, a ninnau a newidir.