52 Canys yr utgorn a gân, a'r meirw a gyfodir yn anllygredig, a ninnau a newidir.
53 Oherwydd rhaid i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisgo anfarwoldeb.
54 A phan ddarffo i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisgo anfarwoldeb, yna y bydd yr ymadrodd a ysgrifennwyd, Angau a lyncwyd mewn buddugoliaeth.
55 O angau, pa le mae dy golyn? O uffern, pa le mae dy fuddugoliaeth?
56 Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw'r gyfraith.
57 Ond i Dduw y byddo'r diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist.
58 Am hynny, fy mrodyr annwyl, byddwch sicr, a diymod, a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol; a chwi yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.