8 Ac yn ddiwethaf oll y gwelwyd ef gennyf finnau hefyd, megis gan un annhymig.
9 Canys myfi yw'r lleiaf o'r apostolion, yr hwn nid wyf addas i'm galw yn apostol, am i mi erlid eglwys Dduw.
10 Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf: a'i ras ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer; ond mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll: ac nid myfi chwaith, ond gras Duw, yr hwn oedd gyda mi.
11 Am hynny, pa un bynnag ai myfi ai hwynt‐hwy, felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwi.
12 Ac os pregethir Crist, ei gyfodi ef o feirw; pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi, nad oes atgyfodiad y meirw?
13 Eithr onid oes atgyfodiad y meirw, ni chyfodwyd Crist chwaith:
14 Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yn wir yw ein pregeth ni, ac ofer hefyd yw eich ffydd chwithau.