1 A myfi, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megis wrth rai ysbrydol, ond megis rhai cnawdol, megis wrth rai bach yng Nghrist.
2 Mi a roddais i chwi laeth i'w yfed, ac nid bwyd: canys hyd yn hyn nis gallech, ac nis gellwch chwaith eto yr awron, ei dderbyn.
3 Canys cnawdol ydych chwi eto: canys tra fyddo yn eich plith chwi genfigen, a chynnen, ac ymbleidio; onid ydych yn gnawdol, ac yn rhodio yn ddynol?
4 Canys tra dywedo un, Myfi ydwyf eiddo Paul; ac arall, Myfi wyf eiddo Apolos; onid ydych chwi yn gnawdol?
5 Pwy gan hynny yw Paul, a phwy Apolos, ond gweinidogion trwy y rhai y credasoch chwi, ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bob un?
6 Myfi a blennais, Apolos a ddyfrhaodd; ond Duw a roddes y cynnydd.
7 Felly nid yw'r hwn sydd yn plannu ddim, na'r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw, yr hwn sydd yn rhoi'r cynnydd.