7 Felly nid yw'r hwn sydd yn plannu ddim, na'r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw, yr hwn sydd yn rhoi'r cynnydd.
8 Eithr yr hwn sydd yn plannu, a'r hwn sydd yn dyfrhau, un ydynt: a phob un a dderbyn ei briod wobr ei hun, yn ôl ei lafur ei hun.
9 Canys cyd‐weithwyr Duw ydym ni: llafurwaith Duw, adeiladaeth Duw, ydych chwi.
10 Yn ôl y gras Duw a roddwyd i mi, megis pensaer celfydd, myfi a osodais y sylfaen, ac y mae arall yn goruwch adeiladu. Ond edryched pob un pa wedd y mae yn goruwch adeiladu.
11 Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod, heblaw'r un a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist.
12 Eithr os goruwch adeilada neb ar y sylfaen hwn, aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl;
13 Gwaith pob dyn a wneir yn amlwg: canys y dydd a'i dengys, oblegid trwy dân y datguddir ef; a'r tân a brawf waith pawb, pa fath ydyw.