9 Canys cyd‐weithwyr Duw ydym ni: llafurwaith Duw, adeiladaeth Duw, ydych chwi.
10 Yn ôl y gras Duw a roddwyd i mi, megis pensaer celfydd, myfi a osodais y sylfaen, ac y mae arall yn goruwch adeiladu. Ond edryched pob un pa wedd y mae yn goruwch adeiladu.
11 Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod, heblaw'r un a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist.
12 Eithr os goruwch adeilada neb ar y sylfaen hwn, aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl;
13 Gwaith pob dyn a wneir yn amlwg: canys y dydd a'i dengys, oblegid trwy dân y datguddir ef; a'r tân a brawf waith pawb, pa fath ydyw.
14 Os gwaith neb a erys, yr hwn a oruwch adeiladodd ef, efe a dderbyn wobr.
15 Os gwaith neb a losgir, efe a gaiff golled: eithr efe ei hun a fydd cadwedig; eto felly, megis trwy dân.