3 Eithr gennyf fi bychan iawn yw fy marnu gennych chwi, neu gan farn dyn: ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hun.
4 Canys ni wn i ddim arnaf fy hun; ond yn hyn ni'm cyfiawnhawyd: eithr yr Arglwydd yw'r hwn sydd yn fy marnu.
5 Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo'r Arglwydd, yr hwn a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau'r calonnau: ac yna y bydd y glod i bob un gan Dduw.
6 A'r pethau hyn, frodyr, mewn cyffelybiaeth a fwriais i ataf fy hun ac at Apolos, o'ch achos chwi: fel y gallech ddysgu ynom ni, na synier mwy nag sydd ysgrifenedig, fel na byddoch y naill dros y llall yn ymchwyddo yn erbyn arall.
7 Pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ac arall? a pha beth sydd gennyt a'r nas derbyniaist? ac os derbyniaist, paham yr wyt ti yn gorfoleddu, megis pe bait heb dderbyn?
8 Yr ydych chwi yr awron wedi eich diwallu, yr ydych chwi yr awron wedi eich cyfoethogi, chwi a deyrnasasoch hebom ni: ac och Dduw na baech yn teyrnasu, fel y caem ninnau deyrnasu gyda chwi.
9 Canys tybied yr wyf ddarfod i Dduw ein dangos ni, yr apostolion diwethaf, fel rhai wedi eu bwrw i angau: oblegid nyni a wnaethpwyd yn ddrych i'r byd, ac i'r angylion, ac i ddynion.