12 Pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond nid yw pob peth yn llesáu; pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr ni'm dygir i dan awdurdod gan ddim.
13 Y bwydydd i'r bol, a'r bol i'r bwydydd: eithr Duw a ddinistria hwn a hwythau. A'r corff nid yw i odineb, ond i'r Arglwydd; a'r Arglwydd i'r corff.
14 Eithr Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a'n cyfyd ninnau trwy ei nerth ef.
15 Oni wyddoch chwi fod eich cyrff yn aelodau i Grist? gan hynny a gymeraf fi aelodau Crist, a'u gwneuthur yn aelodau putain? Na ato Duw.
16 Oni wyddoch chwi fod yr hwn sydd yn cydio â phutain, yn un corff? canys y ddau (medd efe) fyddant un cnawd.
17 Ond yr hwn a gysylltir â'r Arglwydd, un ysbryd yw.
18 Gochelwch odineb. Pob pechod a wnelo dyn, oddi allan i'w gorff y mae; ond yr hwn sydd yn godinebu, sydd yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun.