17 Ond yr hwn a gysylltir â'r Arglwydd, un ysbryd yw.
18 Gochelwch odineb. Pob pechod a wnelo dyn, oddi allan i'w gorff y mae; ond yr hwn sydd yn godinebu, sydd yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun.
19 Oni wyddoch chwi fod eich corff yn deml i'r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych yn eiddoch eich hunain?
20 Canys er gwerth y prynwyd chwi: gan hynny gogoneddwch Dduw yn eich corff, ac yn eich ysbryd, y rhai sydd eiddo Duw.