4 Gan hynny, od oes gennych farnedigaethau am bethau a berthyn i'r bywyd hwn, dodwch ar y fainc y rhai gwaelaf yn yr eglwys.
5 Er cywilydd i chwi yr ydwyf yn dywedyd. Felly, onid oes yn eich plith gymaint ag un doeth, yr hwn a fedro farnu rhwng ei frodyr?
6 Ond bod brawd yn ymgyfreithio â brawd, a hynny gerbron y rhai di‐gred?
7 Yr awron gan hynny y mae yn hollol ddiffyg yn eich plith, am eich bod yn ymgyfreithio â'ch gilydd. Paham nad ydych yn hytrach yn dioddef cam? paham nad ydych yn hytrach mewn colled?
8 Eithr chwychwi sydd yn gwneuthur cam, a cholled, a hynny i'r brodyr.
9 Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw? Na thwyller chwi: ni chaiff na godinebwyr, nac eilun‐addolwyr, na thorwyr priodas, na masweddwyr, na gwrywgydwyr,
10 Na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw.