9 Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw? Na thwyller chwi: ni chaiff na godinebwyr, nac eilun‐addolwyr, na thorwyr priodas, na masweddwyr, na gwrywgydwyr,
10 Na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw.
11 A hyn fu rai ohonoch chwi: eithr chwi a olchwyd, eithr chwi a sancteiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhawyd, yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Ysbryd ein Duw ni.
12 Pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond nid yw pob peth yn llesáu; pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr ni'm dygir i dan awdurdod gan ddim.
13 Y bwydydd i'r bol, a'r bol i'r bwydydd: eithr Duw a ddinistria hwn a hwythau. A'r corff nid yw i odineb, ond i'r Arglwydd; a'r Arglwydd i'r corff.
14 Eithr Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a'n cyfyd ninnau trwy ei nerth ef.
15 Oni wyddoch chwi fod eich cyrff yn aelodau i Grist? gan hynny a gymeraf fi aelodau Crist, a'u gwneuthur yn aelodau putain? Na ato Duw.