1 Ac am y pethau yr ysgrifenasoch ataf: Da i ddyn na chyffyrddai â gwraig.
2 Ond rhag godineb, bydded i bob gŵr ei wraig ei hun, a bydded i bob gwraig ei gŵr ei hun.
3 Rhodded y gŵr i'r wraig ddyledus ewyllys da; a'r un wedd y wraig i'r gŵr.
4 Nid oes i'r wraig feddiant ar ei chorff ei hun, ond i'r gŵr; ac yr un ffunud, nid oes i'r gŵr feddiant ar ei gorff ei hun, ond i'r wraig.
5 Na thwyllwch eich gilydd, oddieithr o gydsyniad dros amser, fel y galloch ymroi i ympryd a gweddi: a deuwch drachefn ynghyd, rhag temtio o Satan chwi oherwydd eich anlladrwydd.