2 Ond rhag godineb, bydded i bob gŵr ei wraig ei hun, a bydded i bob gwraig ei gŵr ei hun.
3 Rhodded y gŵr i'r wraig ddyledus ewyllys da; a'r un wedd y wraig i'r gŵr.
4 Nid oes i'r wraig feddiant ar ei chorff ei hun, ond i'r gŵr; ac yr un ffunud, nid oes i'r gŵr feddiant ar ei gorff ei hun, ond i'r wraig.
5 Na thwyllwch eich gilydd, oddieithr o gydsyniad dros amser, fel y galloch ymroi i ympryd a gweddi: a deuwch drachefn ynghyd, rhag temtio o Satan chwi oherwydd eich anlladrwydd.
6 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd o ganiatâd, nid o orchymyn.
7 Canys mi a fynnwn fod pob dyn fel fi fy hun: eithr y mae i bob un ei ddawn ei hun gan Dduw; i un fel hyn, ac i arall fel hyn.
8 Dywedyd yr wyf wrth y rhai heb briodi, a'r gwragedd gweddwon, Da yw iddynt os arhosant fel finnau.