21 Ai yn was y'th alwyd? na fydded gwaeth gennyt; eto os gelli gael bod yn rhydd, mwynha hynny yn hytrach.
22 Canys yr hwn, ac ef yn was, a alwyd yn yr Arglwydd, gŵr rhydd i'r Arglwydd ydyw: a'r un ffunud yr hwn, ac efe yn ŵr rhydd, a alwyd, gwas i Grist yw.
23 Er gwerth y'ch prynwyd; na fyddwch weision dynion.
24 Yn yr hyn y galwyd pob un, frodyr, yn hynny arhosed gyda Duw.
25 Eithr am wyryfon, nid oes gennyf orchymyn yr Arglwydd: ond barn yr ydwyf yn ei roi, fel un a gafodd drugaredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlon.
26 Am hynny yr wyf yn tybied mai da yw hyn, oherwydd yr anghenraid presennol, mai da, meddaf, i ddyn fod felly.
27 A wyt ti yn rhwym i wraig? na chais dy ollwng yn rhydd. A wyt ti yn rhydd oddi wrth wraig? na chais wraig.