26 Am hynny yr wyf yn tybied mai da yw hyn, oherwydd yr anghenraid presennol, mai da, meddaf, i ddyn fod felly.
27 A wyt ti yn rhwym i wraig? na chais dy ollwng yn rhydd. A wyt ti yn rhydd oddi wrth wraig? na chais wraig.
28 Ac os priodi hefyd, ni phechaist: ac os prioda gwyry, ni phechodd. Er hynny y cyfryw rai a gânt flinder yn y cnawd: eithr yr wyf yn eich arbed chwi.
29 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, frodyr, am fod yr amser yn fyr. Y mae yn ôl, fod o'r rhai sydd â gwragedd iddynt, megis pe byddent hebddynt;
30 A'r rhai a wylant, megis heb wylo; a'r rhai a lawenhânt, megis heb lawenhau; a'r rhai a brynant, megis heb feddu;
31 A'r rhai a arferant y byd hwn, megis heb ei gamarfer: canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio.
32 Eithr mi a fynnwn i chwi fod yn ddiofal. Yr hwn sydd heb briodi, sydd yn gofalu am bethau'r Arglwydd, pa wedd y bodlona'r Arglwydd: