33 Ond y neb a wreicaodd, sydd yn gofalu am bethau'r byd, pa wedd y bodlona ei wraig.
34 Y mae gwahaniaeth hefyd rhwng gwraig a gwyry. Y mae'r hon sydd heb briodi, yn gofalu am y pethau sydd yn perthyn i'r Arglwydd, fel y byddo hi sanctaidd yng nghorff ac ysbryd: ac y mae'r hon sydd wedi priodi, yn gofalu am bethau bydol, pa fodd y rhynga hi fodd i'w gŵr.
35 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd er llesâd i chwi eich hunain; nid i osod magl i chwi, eithr er mwyn gweddeidd‐dra, a dyfal lynu wrth yr Arglwydd yn ddiwahân.
36 Ond os yw neb yn tybied ei fod yn anweddaidd tuag at ei wyry, od â hi dros flodau ei hoedran, a bod yn rhaid gwneuthur felly; gwnaed a fynno, nid yw yn pechu: priodant.
37 Ond yr hwn sydd yn sefyll yn sicr yn ei galon, ac yn afraid iddo, ac â meddiant ganddo ar ei ewyllys ei hun, ac a roddodd ei fryd ar hynny yn ei galon, ar gadw ohono ei wyry; da y mae yn gwneuthur.
38 Ac am hynny, yr hwn sydd yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn dda; ond yr hwn nid yw yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn well.
39 Y mae gwraig yn rhwym wrth y gyfraith, tra fyddo byw ei gŵr: ond o bydd marw ei gŵr, y mae hi yn rhydd i briodi'r neb a fynno; yn unig yn yr Arglwydd.