5 Na thwyllwch eich gilydd, oddieithr o gydsyniad dros amser, fel y galloch ymroi i ympryd a gweddi: a deuwch drachefn ynghyd, rhag temtio o Satan chwi oherwydd eich anlladrwydd.
6 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd o ganiatâd, nid o orchymyn.
7 Canys mi a fynnwn fod pob dyn fel fi fy hun: eithr y mae i bob un ei ddawn ei hun gan Dduw; i un fel hyn, ac i arall fel hyn.
8 Dywedyd yr wyf wrth y rhai heb briodi, a'r gwragedd gweddwon, Da yw iddynt os arhosant fel finnau.
9 Eithr oni allant ymgadw, priodant: canys gwell yw priodi nag ymlosgi.
10 Ac i'r rhai a briodwyd yr ydwyf yn gorchymyn, nid myfi chwaith, ond yr Arglwydd, Nad ymadawo gwraig oddi wrth ei gŵr:
11 Ac os ymedy hi, arhoed heb briodi, neu, cymoder hi â'i gŵr: ac na ollynged y gŵr ei wraig ymaith.