2 Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll, gan wneuthur coffa amdanoch yn ein gweddïau,
3 Gan gofio yn ddi-baid waith eich ffydd chwi, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, gerbron Duw a'n Tad;
4 Gan wybod, frodyr annwyl, eich etholedigaeth chwi gan Dduw.
5 Oblegid ni bu ein hefengyl ni tuag atoch mewn gair yn unig, eithr hefyd mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr; megis y gwyddoch chwi pa fath rai a fuom ni yn eich plith, er eich mwyn chwi.
6 A chwi a aethoch yn ddilynwyr i ni, ac i'r Arglwydd, wedi derbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyda llawenydd yr Ysbryd Glân:
7 Hyd onid aethoch yn siamplau i'r rhai oll sydd yn credu ym Macedonia ac yn Achaia.
8 Canys oddi wrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd, nid yn unig ym Macedonia, ac yn Achaia, ond ym mhob man hefyd eich ffydd chwi ar Dduw a aeth ar led; fel nad rhaid i ni ddywedyd dim.