1 Am hynny, gan na allem ymatal yn hwy, ni a welsom yn dda ein gadael ni ein hunain yn Athen;
2 Ac a ddanfonasom Timotheus, ein brawd, a gweinidog Duw, a'n cyd-weithiwr yn efengyl Crist, i'ch cadarnhau chwi, ac i'ch diddanu ynghylch eich ffydd;
3 Fel na chynhyrfid neb yn y gorthrymderau hyn: canys chwychwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y'n gosodwyd ni.
4 Canys yn wir pan oeddem gyda chwi, ni a ragddywedasom i chwi y gorthrymid ni; megis y bu, ac y gwyddoch chwi.
5 Oherwydd hyn, minnau, heb allu ymatal yn hwy, a ddanfonais i gael gwybod eich ffydd chwi; rhag darfod i'r temtiwr eich temtio chwi, a myned ein llafur ni yn ofer.
6 Eithr yr awron, wedi dyfod Timotheus atom oddi wrthych, a dywedyd i ni newyddion da am eich ffydd chwi a'ch cariad, a bod gennych goffa da amdanom ni yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled ni, megis yr ydym ninnau am eich gweled chwithau;
7 Am hynny y cawsom gysur, frodyr, amdanoch chwi, yn ein holl orthrymder a'n hangenoctid, trwy eich ffydd chwi.
8 Oblegid yr awron byw ydym ni, os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd.
9 Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad-dalu i Dduw amdanoch chwi, am yr holl lawenydd â'r hwn yr ydym ni yn llawen o'ch achos chwi gerbron ein Duw ni,
10 Gan weddïo mwy na mwy, nos a dydd, ar gael gweled eich wyneb chwi, a chyflawni diffygion eich ffydd chwi?
11 A Duw ei hun a'n Tad ni, a'n Harglwydd Iesu Grist, a gyfarwyddo ein ffordd ni atoch chwi.
12 A'r Arglwydd a'ch lluosogo, ac a'ch chwanego ym mhob cariad i'ch gilydd, ac i bawb, megis ag yr ydym ninnau i chwi:
13 I gadarnhau eich calonnau chwi yn ddiargyhoedd mewn sancteiddrwydd gerbron Duw a'n Tad, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist gyda'i holl saint.