1 Thesaloniaid 5 BWM

1 Eithr am yr amserau a'r prydiau, frodyr, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch.

2 Oblegid chwi a wyddoch eich hunain yn hysbys, mai felly y daw dydd yr Arglwydd fel lleidr yn y nos.

3 Canys pan ddywedant, Tangnefedd a diogelwch; yna y mae dinistr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf, megis gwewyr esgor ar un a fo beichiog; ac ni ddihangant hwy ddim.

4 Ond chwychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y goddiweddo'r dydd hwnnw chwi megis lleidr.

5 Chwychwi oll, plant y goleuni ydych, a phlant y dydd: nid ydym ni o'r nos, nac o'r tywyllwch.

6 Am hynny na chysgwn, fel rhai eraill; eithr gwyliwn, a byddwn sobr.

7 Canys y rhai a gysgant, y nos y cysgant; a'r rhai a feddwant, y nos y meddwant.

8 Eithr nyni, gan ein bod o'r dydd, byddwn sobr, wedi ymwisgo â dwyfronneg ffydd a chariad, ac â gobaith iachawdwriaeth yn lle helm.

9 Canys nid apwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist,

10 Yr hwn a fu farw drosom; fel pa un bynnag a wnelom ai gwylied ai cysgu, y byddom fyw gydag ef.

11 Oherwydd paham cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch bob un eich gilydd, megis ag yr ydych yn gwneuthur.

12 Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, adnabod y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg, ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd, ac yn eich rhybuddio;

13 A gwneuthur cyfrif mawr ohonynt mewn cariad, er mwyn eu gwaith. Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich hunain.

14 Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus, diddenwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb.

15 Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb: eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sydd dda, tuag at eich gilydd, a thuag at bawb.

16 Byddwch lawen yn wastadol.

17 Gweddïwch yn ddi-baid.

18 Ym mhob dim diolchwch: canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag atoch chwi.

19 Na ddiffoddwch yr Ysbryd.

20 Na ddirmygwch broffwydoliaethau.

21 Profwch bob peth: deliwch yr hyn sydd dda.

22 Ymgedwch rhag pob rhith drygioni.

23 A gwir Dduw'r tangnefedd a'ch sancteiddio yn gwbl oll: a chadwer eich ysbryd oll, a'ch enaid, a'ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist.

24 Ffyddlon yw'r hwn a'ch galwodd, yr hwn hefyd a'i gwna.

25 O frodyr, gweddïwch drosom.

26 Anerchwch yr holl frodyr â chusan sancteiddiol.

27 Yr ydwyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd, ar ddarllen y llythyr hwn i'r holl frodyr sanctaidd.

28 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen.Y cyntaf at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.

Penodau

1 2 3 4 5