3 Canys ein cyngor ni nid oedd o hudoliaeth nac o aflendid, nac mewn twyll:
4 Eithr megis y'n cyfrifwyd ni gan Dduw yn addas i ymddiried i ni am yr efengyl, felly yr ydym yn llefaru; nid megis yn rhyngu bodd i ddynion, ond i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau ni.
5 Oblegid ni fuom ni un amser mewn ymadrodd gwenieithus, fel y gwyddoch chwi, nac mewn rhith cybydd-dod; Duw yn dyst:
6 Nac yn ceisio moliant gan ddynion, na chennych chwi, na chan eraill; lle y gallasem bwyso arnoch, fel apostolion Crist.
7 Eithr ni a fuom addfwyn yn eich mysg chwi, megis mamaeth yn maethu ei phlant.
8 Felly, gan eich hoffi chwi, ni a welsom yn dda gyfrannu â chwi, nid yn unig efengyl Duw, ond ein heneidiau ein hunain hefyd, am eich bod yn annwyl gennym.
9 Canys cof yw gennych, frodyr, ein llafur a'n lludded ni: canys gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch, ni a bregethasom i chwi efengyl Duw.