1 Ymhellach gan hynny, frodyr, yr ydym yn atolwg i chwi, ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw, ar i chwi gynyddu fwyfwy.
2 Canys chwi a wyddoch pa orchmynion a roddasom i chwi trwy'r Arglwydd Iesu.
3 Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi, ar ymgadw ohonoch rhag godineb:
4 Ar fedru o bob un ohonoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch;
5 Nid mewn gwŷn trachwant, megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw: