3 Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi, ar ymgadw ohonoch rhag godineb:
4 Ar fedru o bob un ohonoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch;
5 Nid mewn gwŷn trachwant, megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw:
6 Na byddo i neb orthrymu na thwyllo ei frawd mewn dim: canys dialydd yw'r Arglwydd ar y rhai hyn oll, megis y dywedasom i chwi o'r blaen, ac y tystiasom.
7 Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, ond i sancteiddrwydd.
8 Am hynny y neb sydd yn dirmygu, nid dyn y mae yn ei ddirmygu, ond Duw, yr hwn hefyd a roddes ei Ysbryd Glân ynom ni.
9 Ond am frawdgarwch, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch: canys yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd.