5 Canys y mae wedi ei sancteiddio gan air Duw a gweddi.
6 Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr, ti a fyddi weinidog da i Iesu Grist, wedi dy fagu yng ngeiriau'r ffydd ac athrawiaeth dda, yr hon a ddilynaist.
7 Eithr gad heibio halogedig a gwrachïaidd chwedlau, ac ymarfer dy hun i dduwioldeb.
8 Canys i ychydig y mae ymarfer corfforol yn fuddiol: eithr duwioldeb sydd fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o'r bywyd y sydd yr awron, ac o'r hwn a fydd.
9 Gwir yw'r gair, ac yn haeddu pob derbyniad.
10 Canys er mwyn hyn yr ydym yn poeni, ac yn cael ein gwaradwyddo, oherwydd i ni obeithio yn y Duw byw, yr hwn yw Achubydd pob dyn, yn enwedig y ffyddloniaid.
11 Y pethau hyn gorchymyn a dysg.