39 A Mair a gyfododd yn y dyddiau hynny, ac a aeth i'r mynydd‐dir ar frys, i ddinas o Jwda;
40 Ac a aeth i mewn i dŷ Sachareias, ac a gyfarchodd well i Elisabeth.
41 A bu, pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair, i'r plentyn yn ei chroth hi lamu: ac Elisabeth a lanwyd o'r Ysbryd Glân.
42 A llefain a wnaeth â llef uchel, a dywedyd, Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di.
43 Ac o ba le y mae hyn i mi, fel y delai mam fy Arglwydd ataf fi?
44 Canys wele, er cynted y daeth lleferydd dy gyfarchiad di i'm clustiau, y plentyn a lamodd o lawenydd yn fy nghroth.
45 A bendigedig yw'r hon a gredodd: canys bydd cyflawniad o'r pethau a ddywedwyd wrthi gan yr Arglwydd.