1 A'r Iesu a aeth i mewn, ac a aeth trwy Jericho.
2 Ac wele ŵr a elwid wrth ei enw Saccheus, ac efe oedd ben‐publican, a hwn oedd gyfoethog.
3 Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd; ac ni allai gan y dyrfa, am ei fod yn fychan o gorffolaeth.
4 Ac efe a redodd o'r blaen, ac a ddringodd i sycamorwydden, fel y gallai ei weled ef; oblegid yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno.
5 A phan ddaeth yr Iesu i'r lle, efe a edrychodd i fyny, ac a'i canfu ef; ac a ddywedodd wrtho, Saccheus, disgyn ar frys: canys rhaid i mi heddiw aros yn dy dŷ di.
6 Ac efe a ddisgynnodd ar frys, ac a'i derbyniodd ef yn llawen.
7 A phan welsant, grwgnach a wnaethant oll, gan ddywedyd, Fyned ohono ef i mewn i letya at ŵr pechadurus.
8 A Saccheus a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy na, O Arglwydd, yr ydwyf yn ei roddi i'r tlodion; ac os dygais ddim o'r eiddo neb trwy gamachwyn, yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd.
9 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddiw y daeth iachawdwriaeth i'r tŷ hwn, oherwydd ei fod yntau yn fab i Abraham.
10 Canys Mab y dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid.
11 Ac a hwy yn gwrando ar y pethau hyn, efe a chwanegodd, ac a ddywedodd ddameg, am ei fod efe yn agos i Jerwsalem, ac am iddynt dybied yr ymddangosai teyrnas Dduw yn y fan.
12 Am hynny y dywedodd efe, Rhyw ŵr bonheddig a aeth i wlad bell i dderbyn teyrnas iddo'i hun, ac i ddychwelyd.
13 Ac wedi galw ei ddeg gwas, efe a roddes iddynt ddeg punt, ac a ddywedodd wrthynt, Marchnatewch hyd oni ddelwyf.
14 Eithr ei ddinaswyr a'i casasant ef, ac a ddanfonasant genadwri ar ei ôl ef, gan ddywedyd, Ni fynnwn ni hwn i deyrnasu arnom.
15 A bu, pan ddaeth efe yn ei ôl, wedi derbyn y deyrnas, erchi ohono ef alw'r gweision hyn ato, i'r rhai y rhoddasai efe yr arian, fel y gwybyddai beth a elwasai bob un wrth farchnata.
16 A daeth y cyntaf, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt a enillodd ddeg punt.
17 Yntau a ddywedodd wrtho, Da, was da: am i ti fod yn ffyddlon yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod ar ddeg dinas.
18 A'r ail a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt di a wnaeth bum punt.
19 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth hwnnw, Bydd dithau ar bum dinas.
20 Ac un arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy bunt, yr hon oedd gennyf wedi ei dodi mewn napgyn:
21 Canys mi a'th ofnais, am dy fod yn ŵr tost: yr wyt ti yn cymryd i fyny y peth ni roddaist i lawr, ac yn medi y peth ni heuaist.
22 Yntau a ddywedodd wrtho, O'th enau dy hun y'th farnaf, tydi was drwg. Ti a wyddit fy mod i yn ŵr tost, yn cymryd i fyny y peth ni roddais i lawr, ac yn medi y peth ni heuais:
23 A phaham na roddaist fy arian i i'r bwrdd cyfnewid, fel, pan ddaethwn, y gallaswn ei gael gyda llog?
24 Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, Dygwch oddi arno ef y bunt, a rhoddwch i'r hwn sydd â deg punt ganddo;
25 (A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg punt;)
26 Canys yr wyf fi yn dywedyd i chwi, mai i bob un y mae ganddo, y rhoddir iddo; eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo.
27 A hefyd fy ngelynion hynny, y rhai ni fynasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch ger fy mron i.
28 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o'r blaen, gan fyned i fyny i Jerwsalem.
29 Ac fe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethffage a Bethania, i'r mynydd a elwir Olewydd, efe a anfonodd ddau o'i ddisgyblion,
30 Gan ddywedyd, Ewch i'r pentref ar eich cyfer; yn yr hwn, gwedi eich dyfod i mewn, chwi a gewch ebol yn rhwym, ar yr hwn nid eisteddodd dyn erioed: gollyngwch ef, a dygwch yma.
31 Ac os gofyn neb i chwi, Paham yr ydych yn ei ollwng? fel hyn y dywedwch wrtho, Am fod yn rhaid i'r Arglwydd wrtho.
32 A'r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt.
33 Ac fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol, ei berchenogion a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol?
34 A hwy a ddywedasant, Mae yn rhaid i'r Arglwydd wrtho ef.
35 A hwy a'i dygasant ef at yr Iesu: ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, hwy a ddodasant yr Iesu arno.
36 Ac fel yr oedd efe yn myned, hwy a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd.
37 Ac weithian, ac efe yn nesáu at ddisgynfa mynydd yr Olewydd, dechreuodd yr holl liaws disgyblion lawenhau, a chlodfori Duw â llef uchel, am yr holl weithredoedd nerthol a welsent;
38 Gan ddywedyd, Bendigedig yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd: Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchaf.
39 A rhai o'r Phariseaid o'r dyrfa a ddywedasant wrtho, Athro, cerydda dy ddisgyblion.
40 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai'r rhai hyn, y llefai'r cerrig yn y fan.
41 Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti,
42 Gan ddywedyd, Pe gwybuasit tithau, ie, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i'th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid.
43 Canys daw'r dyddiau arnat, a'th elynion a fwriant glawdd o'th amgylch, ac a'th amgylchant, ac a'th warchaeant o bob parth,
44 Ac a'th wnânt yn gydwastad â'r llawr, a'th blant o'th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen; oherwydd nad adnabuost amser dy ymweliad.
45 Ac efe a aeth i mewn i'r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddi, ac yn prynu;
46 Gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig, Fy nhŷ i, tŷ gweddi yw: eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.
47 Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y deml. A'r archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a phenaethiaid y bobl, a geisient ei ddifetha ef;
48 Ac ni fedrasant gael beth a wnaent: canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrando arno.