Luc 2 BWM

1 Bu hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymyn allan oddi wrth Augustus Cesar, i drethu'r holl fyd.

2 (Y trethiad yma a wnaethpwyd gyntaf pan oedd Cyrenius yn rhaglaw ar Syria.)

3 A phawb a aethant i'w trethu, bob un i'w ddinas ei hun.

4 A Joseff hefyd a aeth i fyny o Galilea, o ddinas Nasareth, i Jwdea, i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem (am ei fod o dŷ a thylwyth Dafydd),

5 I'w drethu gyda Mair, yr hon a ddyweddiasid yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog.

6 A bu, tra oeddynt hwy yno, cyflawnwyd y dyddiau i esgor ohoni.

7 A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf‐anedig, ac a'i rhwymodd ef mewn cadachau, ac a'i dododd ef yn y preseb; am nad oedd iddynt le yn y llety.

8 Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiliaid yn aros yn y maes, ac yn gwylied eu praidd liw nos.

9 Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o'u hamgylch: ac ofni yn ddirfawr a wnaethant.

10 A'r angel a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch: canys wele, yr wyf fi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i'r holl bobl:

11 Canys ganwyd i chwi heddiw Geidwad yn ninas Dafydd, yr hwn yw Crist yr Arglwydd.

12 A hyn fydd arwydd i chwi; Chwi a gewch y dyn bach wedi ei rwymo mewn cadachau, a'i ddodi yn y preseb.

13 Ac yn ddisymwth yr oedd gyda'r angel liaws o lu nefol, yn moliannu Duw, ac yn dywedyd,

14 Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da.

15 A bu, pan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i'r nef, y bugeiliaid hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Awn hyd Fethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni.

16 A hwy a ddaethant ar frys; ac a gawsant Mair a Joseff, a'r dyn bach yn gorwedd yn y preseb.

17 A phan welsant, hwy a gyhoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwn.

18 A phawb a'r a'i clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedasid gan y bugeiliaid wrthynt.

19 Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon.

20 A'r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a moliannu Duw am yr holl bethau a glywsent ac a welsent, fel y dywedasid wrthynt.

21 A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i enwaedu ar y dyn bach, galwyd ei enw ef IESU, yr hwn a enwasid gan yr angel cyn ei ymddŵyn ef yn y groth.

22 Ac wedi cyflawni dyddiau ei phuredigaeth hi, yn ôl deddf Moses, hwy a'i dygasant ef i Jerwsalem, i'w gyflwyno i'r Arglwydd;

23 (Fel yr ysgrifennwyd yn neddf yr Arglwydd, Pob gwryw cyntaf‐anedig a elwir yn sanctaidd i'r Arglwydd;)

24 Ac i roddi aberth, yn ôl yr hyn a ddywedwyd yn neddf yr Arglwydd, Pâr o durturod, neu ddau gyw colomen.

25 Ac wele, yr oedd gŵr yn Jerwsalem, a'i enw Simeon; a'r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel: a'r Ysbryd Glân oedd arno.

26 Ac yr oedd wedi ei hysbysu iddo gan yr Ysbryd Glân, na welai efe angau, cyn iddo weled Crist yr Arglwydd.

27 Ac efe a ddaeth trwy'r ysbryd i'r deml: a phan ddug ei rieni y dyn bach Iesu, i wneuthur drosto yn ôl defod y gyfraith;

28 Yna efe a'i cymerth ef yn ei freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd,

29 Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ôl dy air:

30 Canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth,

31 Yr hon a baratoaist gerbron wyneb yr holl bobloedd;

32 Goleuni i oleuo y Cenhedloedd, a gogoniant dy bobl Israel.

33 Ac yr oedd Joseff a'i fam ef yn rhyfeddu am y pethau a ddywedwyd amdano ef.

34 A Simeon a'u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Mair ei fam ef, Wele, hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn;

35 (A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf;) fel y datguddir meddyliau llawer o galonnau.

36 Ac yr oedd Anna broffwydes, merch Phanwel, o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawn, ac a fuasai fyw gyda gŵr saith mlynedd o'i morwyndod;

37 Ac a fuasai yn weddw ynghylch pedair a phedwar ugain mlynedd, yr hon nid âi allan o'r deml, ond gwasanaethu Duw mewn ymprydiau a gweddïau ddydd a nos.

38 A hon hefyd yn yr awr honno, gan sefyll gerllaw, a foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd amdano ef wrth y rhai oll oedd yn disgwyl ymwared yn Jerwsalem.

39 Ac wedi iddynt orffen pob peth yn ôl deddf yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Galilea, i'w dinas eu hun Nasareth.

40 A'r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhaodd yn yr ysbryd, yn gyflawn o ddoethineb: a gras Duw oedd arno ef.

41 A'i rieni ef a aent i Jerwsalem bob blwyddyn ar ŵyl y pasg.

42 A phan oedd efe yn ddeuddeng mlwydd oed, hwynt‐hwy a aethant i fyny i Jerwsalem yn ôl defod yr ŵyl.

43 Ac wedi gorffen y dyddiau, a hwy yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Jerwsalem; ac ni wyddai Joseff a'i fam ef:

44 Eithr gan dybied ei fod ef yn y fintai, hwy a aethant daith diwrnod; ac a'i ceisiasant ef ymhlith eu cenedl a'u cydnabod.

45 A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gan ei geisio ef.

46 A bu, ar ôl tridiau, gael ohonynt hwy ef yn y deml, yn eistedd yng nghanol y doctoriaid, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt.

47 A synnu a wnaeth ar bawb a'r a'i clywsant ef, oherwydd ei ddeall ef a'i atebion.

48 A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt. A'i fam a ddywedodd wrtho, Fy mab, paham y gwnaethost felly â ni? wele, dy dad a minnau yn ofidus a'th geisiasom di.

49 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? oni wyddech fod yn rhaid i mi fod ynghylch y pethau a berthyn i'm Tad?

50 A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasai efe wrthynt.

51 Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a ddaeth i Nasareth, ac a fu ostyngedig iddynt. A'i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon.

52 A'r Iesu a gynyddodd mewn doethineb a chorffolaeth, a ffafr gyda Duw a dynion.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24