46 A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhau'r Arglwydd,
47 A'm hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr.
48 Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a'm geilw yn wynfydedig.
49 Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd; a sanctaidd yw ei enw ef.
50 A'i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a'i hofnant ef.
51 Efe a wnaeth gadernid â'i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon.
52 Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o'u heisteddfâu, ac a ddyrchafodd y rhai isel radd.