50 A'i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a'i hofnant ef.
51 Efe a wnaeth gadernid â'i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon.
52 Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o'u heisteddfâu, ac a ddyrchafodd y rhai isel radd.
53 Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion.
54 Efe a gynorthwyodd ei was Israel, gan gofio ei drugaredd;
55 Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a'i had, yn dragywydd.
56 A Mair a arhosodd gyda hi ynghylch tri mis, ac a ddychwelodd i'w thŷ ei hun.