56 A Mair a arhosodd gyda hi ynghylch tri mis, ac a ddychwelodd i'w thŷ ei hun.
57 A chyflawnwyd tymp Elisabeth i esgor; a hi a esgorodd ar fab.
58 A'i chymdogion a'i chenedl a glybu fawrhau o'r Arglwydd ei drugaredd arni; a hwy a gydlawenychasant â hi.
59 A bu, ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach; ac a'i galwasant ef Sachareias, yn ôl enw ei dad.
60 A'i fam a atebodd ac a ddywedodd, Nid felly; eithr Ioan y gelwir ef.
61 Hwythau a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o'th genedl a elwir ar yr enw hwn.
62 A hwy a wnaethant amnaid ar ei dad ef, pa fodd y mynnai efe ei enwi ef.