61 Hwythau a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o'th genedl a elwir ar yr enw hwn.
62 A hwy a wnaethant amnaid ar ei dad ef, pa fodd y mynnai efe ei enwi ef.
63 Yntau a alwodd am argrafflech, ac a ysgrifennodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll.
64 Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a'i dafod ef; ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw.
65 A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd‐dir Jwdea y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll.
66 A phawb a'r a'u clywsant, a'u gosodasant yn eu calonnau, gan ddywedyd, Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw'r Arglwydd oedd gydag ef.
67 A'i dad ef Sachareias a gyflawnwyd o'r Ysbryd Glân, ac a broffwydodd, gan ddywedyd,