68 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i'w bobl;
69 Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr;
70 Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd:
71 Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o'n caseion;
72 I gwblhau'r drugaredd â'n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfamod:
73 Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni,
74 Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddi‐ofn,