74 Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddi‐ofn,
75 Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd.
76 A thithau, fachgennyn, a elwir yn broffwyd i'r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef;
77 I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i'w bobl, trwy faddeuant o'u pechodau,
78 Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o'r uchelder,
79 I lewyrchu i'r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
80 A'r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhawyd yn yr ysbryd, ac a fu yn y diffeithwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i'r Israel.