8 A bu, ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad gerbron Duw, yn nhrefn ei ddyddgylch ef,
9 Yn ôl arfer swydd yr offeiriaid, ddyfod o ran iddo arogldarthu yn ôl ei fyned i deml yr Arglwydd.
10 A holl liaws y bobl oedd allan yn gweddïo ar awr yr arogl‐darthiad.
11 Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o'r tu deau i allor yr arogl‐darth.
12 A Sachareias, pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno.
13 Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Sachareias: canys gwrandawyd dy weddi; a'th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, a thi a elwi ei enw ef Ioan.
14 A bydd iti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef.