10 Eithr pa ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy heb eich derbyn, ewch allan i'w heolydd, a dywedwch,
11 Hyd yn oed y llwch, yr hwn a lynodd wrthym o'ch dinas, yr ydym yn ei sychu ymaith i chwi: er hynny gwybyddwch hyn, fod teyrnas Dduw wedi nesáu atoch.
12 Eithr dywedaf wrthych, mai esmwythach fydd i Sodom yn y dydd hwnnw, nag i'r ddinas honno.
13 Gwae di, Chorasin! gwae di, Bethsaida! canys pe gwnelsid yn Nhyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd yn eich plith chwi, hwy a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sachliain a lludw.
14 Eithr esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn y farn, nag i chwi.
15 A thithau, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern.
16 Y neb sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fy ngwrando i; a'r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i; a'r neb sydd yn fy nirmygu i, sydd yn dirmygu'r hwn a'm hanfonodd i.