15 A thithau, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern.
16 Y neb sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fy ngwrando i; a'r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i; a'r neb sydd yn fy nirmygu i, sydd yn dirmygu'r hwn a'm hanfonodd i.
17 A'r deg a thrigain a ddychwelasant gyda llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, hyd yn oed y cythreuliaid a ddarostyngir i ni, yn dy enw di.
18 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a welais Satan megis mellten, yn syrthio o'r nef.
19 Wele, yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac ar holl gryfder y gelyn: ac nid oes dim a wna ddim niwed i chwi.
20 Eithr yn hyn na lawenhewch, fod yr ysbrydion wedi eu darostwng i chwi; ond llawenhewch yn hytrach, am fod eich enwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd.
21 Yr awr honno yr Iesu a lawenychodd yn yr ysbryd, ac a ddywedodd, Yr wyf yn diolch i ti, O Dad, Arglwydd nef a daear, am guddio ohonot y pethau hyn oddi wrth y doethion a'r deallus, a'u datguddio ohonot i rai bychain: yn wir, O Dad; oblegid felly y gwelid yn dda yn dy olwg di.