23 Ac efe a drodd at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd o'r neilltu, Gwyn fyd y llygaid sydd yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled:
24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, ewyllysio o lawer o broffwydi a brenhinoedd weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac nis gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.
25 Ac wele, rhyw gyfreithiwr a gododd, gan ei demtio ef, a dywedyd, Athro, pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragwyddol?
26 Yntau a ddywedodd wrtho, Pa beth sydd ysgrifenedig yn y gyfraith? pa fodd y darlleni?
27 Ac efe gan ateb a ddywedodd, Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl nerth, ac â'th holl feddwl; a'th gymydog fel ti dy hun.
28 Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a atebaist yn uniawn: gwna hyn, a byw fyddi.
29 Eithr efe, yn ewyllysio ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymydog?