1 Yn y cyfamser, wedi i fyrddiwn o bobl ymgasglu ynghyd, hyd onid ymsathrai y naill y llall, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion, Yn gyntaf, gwyliwch arnoch rhag surdoes y Phariseaid, yr hwn yw rhagrith.
2 Canys nid oes dim cuddiedig, a'r nas datguddir; na dirgel, a'r nis gwybyddir.
3 Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y golau; a'r peth a ddywedasoch yn y glust mewn ystafelloedd, a bregethir ar bennau tai.
4 Ac yr wyf yn dywedyd wrthych, fy nghyfeillion, Nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corff, ac wedi hynny heb ganddynt ddim mwy i'w wneuthur.
5 Ond rhagddangosaf i chwi pwy a ofnwch: Ofnwch yr hwn, wedi y darffo iddo ladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern; ie, meddaf i chwi, Hwnnw a ofnwch.
6 Oni werthir pump o adar y to er dwy ffyrling? ac nid oes un ohonynt mewn angof gerbron Duw: