39 A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa awr y deuai'r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.
40 A chwithau gan hynny, byddwch barod: canys yr awr ni thybioch, y daw Mab y dyn.
41 A Phedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ai wrthym ni yr wyt ti yn dywedyd y ddameg hon, ai wrth bawb hefyd?
42 A'r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yw'r goruchwyliwr ffyddlon a phwyllog, yr hwn a esyd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi cyfluniaeth iddynt mewn pryd?
43 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddêl, yn gwneuthur felly.
44 Yn wir meddaf i chwi, Efe a'i gesyd ef yn llywodraethwr ar gwbl ag sydd eiddo.
45 Eithr os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; a dechrau curo'r gweision a'r morynion, a bwyta ac yfed, a meddwi: