46 Daw arglwydd y gwas hwnnw mewn dydd nad yw efe yn disgwyl, ac ar awr nad yw efe yn gwybod, ac a'i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda'r anffyddloniaid.
47 A'r gwas hwnnw, yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbaratôdd, ac ni wnaeth yn ôl ei ewyllys ef, a gurir â llawer ffonnod.
48 Eithr yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau yn haeddu ffonodiau, a gurir ag ychydig ffonodiau. Ac i bwy bynnag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynnir ganddo; a chyda'r neb y gadawsant lawer, ychwaneg a ofynnant ganddo.
49 Mi a ddeuthum i fwrw tân ar y ddaear: a pheth a fynnaf os cyneuwyd ef eisoes?
50 Eithr y mae gennyf fedydd i'm bedyddio ag ef; ac mor gyfyng yw arnaf hyd oni orffenner!
51 Ydych chwi yn tybied mai heddwch y deuthum i i'w roddi ar y ddaear? nage, meddaf i chwi; ond yn hytrach ymrafael:
52 Canys bydd o hyn allan bump yn yr un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri.